P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Turnbull, ar ôl casglu 118 o lofnodion ar-lein.

Geiriad y ddeiseb:

​​ Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol cynnwys opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae ganddi’r pŵer i wneud hynny.

Mae Senedd Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus (e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o blanhigion. Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Casnewydd

·         Canol De Cymru